2008 Sioe Cartrefi Gwyrdd
8fed - 9fed Mawrth - Diwrnodau Agored i'r Cyhoedd Prynu Tocynnau
7fed Mawrth - Diwrnod Agored i Weithwyr Proffesiynol/ Masnachwyr Prynu Tocynnau
Cynhelir y Sioe ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Powys
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0845 6024087
Bydd arddangoswyr gwybodus wrth law i siarad â chi am y canlynol:
- Deunyddiau Adeiladu Amgylcheddol
- Adeiladu Cynaliadwy
- Pensaernïaeth Werdd
- Ynni Adnewyddadwy
- Effeithiolrwydd Ynni
- Gwresogi'ch Cartref
- Adeiladu eich Hun
- Systemau Awyru
- Tu Fewn y Ty
Diffiniad o'r Sector Adeiladu Cynaliadwy
Adeiladu cynaliadwy (neu Adeiladu Gwyrdd) yw'r arfer o gynyddu effeithiolrwydd adeiladau a'r ffordd y maent yn defnyddio ynni, dwr a deunyddiau, ac yn lleihau effeithiau adeiladu ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl. Cyflawnir hyn drwy wneud gwell dewisiadau wrth ddewis safle, dylunio, adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, a dymchwel - sef cylch bywyd cyflawn adeiladu.
Mae cwmnïau sy'n ymwneud â'r sector adeiladu cynaliadwy, fel a ddiffiniwyd gan Gymdeithas Adeiladau Gofalus o'r Amgylchedd, yn gwmnïau yn y diwydiant adeiladu sy'n darparu cynnyrch a gwasanaethau sy'n hwyluso arferion amgylcheddol, gan gynnwys:
- defnyddio cynnyrch a deunyddiau sy'n ddiogel, yn iach ac yn gynaliadwy
- cymryd rhan mewn prosiectau sy'n parchu, diogelu a gwella'r amgylchedd
- rhyddhau gwybodaeth a chanllawiau cynhwysfawr am gynhyrchion, dulliau a phrosiectau
Enghreifftiau o'r Elfennau yn y sector Adeiladu Cynaliadwy
Gelwir adeiladu gwyrdd weithiau yn adeiladu cynaliadwy neu'n adeiladu amgylcheddol. Er bod angen dyluniad da ar adeilad gwyrdd, mae gweithrediad yr adeilad, y gwaith cynnal a chadw, a'r broses o'i ddymchwel yn y pen draw, hefyd yn cael effaith sylweddol ar effaith amgylcheddol cyffredinol adeiladau.
Gall proses adeiladu gwyrdd effeithiol arwain at 1) gostau gweithredu is drwy gynyddu cynhyrchedd a defnyddio llai o ynni a dwr, 2) gwell iechyd y cyhoedd ac iechyd y preswylwyr gan fod ansawdd yr aer dan do yn well, ac 3) effaith amgylcheddol is drwy, er enghraifft, lleihau dwr ffo a'r effaith ynys wres.
Mae'r sawl sy'n gweithio ym maes adeiladu gwyrdd yn aml yn ceisio taro cydbwysedd ecolegol ac esthetig rhwng y strwythur a'r amgylchedd naturiol ac adeiledig o'i gwmpas. Mae'n anodd iawn gwahaniaethu rhwng ymddangosiad ac arddull tai ac adeiladau cynaliadwy a thai ac adeiladau llai cynaliadwy.
Mae adeiladu gwyrdd yn tynnu ynghyd nifer o arferion a thechnegau i leihau effaith adeiladau ar yr amgylchedd, gyda'r nod o ddileu'r effaith yn llwyr yn y pen draw. Mae sawl cam allweddol wrth ddylunio adeiladau cynaliadwy: canfod deunyddiau adeiladu 'gwyrdd' o ffynonellau lleol, lleihau llwythi, manteisio i'r eithaf ar systemau, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle.
Mae deunyddiau adeiladu y tybir eu bod yn 'wyrdd' yn cynnwys deunyddiau nad ydynt yn wenwynig, deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio, eu hadnewyddu, eu hailgylchu neu sy'n cael eu gwneud allan o ddeunyddiau planhigion sy'n adnewyddu'n gyflym megis bambw, gwellt, a choedydd o fforestydd sydd wedi cael eu hardystio eu bod yn cael eu rheoli'n gynaliadwy. Caiff deunyddiau adeiladu eu hechdynnu a'u gweithgynhyrchu'n lleol, lle bynnag y bo hynny'n bosib, er mwyn lleihau'r ynni a ddefnyddir ar gyfer eu cludo.
Defnyddir hefyd ddeunyddiau adeiladu effaith-isel lle bynnag y bo hynny'n ymarferol, er enghraifft, gellir trin deunyddiau ynysu gydag asid boric; a gellir defnyddio paent organig neu baent llaeth.
I leihau llwythi ynni gymaint ag sy'n bosib o fewn ac ar y strwythur, caiff adeiladau eu hadeiladu i wynebu ffordd benodol er mwyn manteisio ar wyntoedd i awyru ac ar olau dydd. Mae gosod ffenestri er mwyn gadael golau dydd i mewn yn lleihau'r angen i droi golau trydan ymlaen yn ystod y dydd. Gall System Solar Oddefol wresogi adeilad yn y gaeaf. Mae màs thermol yn storio'r gwres a gasglwyd yn ystod y dydd ac yn ei ryddhau gyda'r nos sy'n lleihau newidiadau sylweddol mewn tymheredd. Ynysu yw'r cam olaf ar gyfer gwneud y gorau o'r strwythur. Mae ffenestri, drysau a waliau sydd wedi'u hynysu'n dda yn helpu i osgoi colli cymaint o ynni ac, o'r herwydd, lleihau'r ynni a ddefnyddir.
I leihau'r effaith ar ffynhonnau neu safleoedd trin dwr, mae amrywiaeth o opsiynau wedi cael eu datblygu. Gellir defnyddio "dwr llwyd", sef dwr gwastraff o beiriannau golchi llestri neu beiriannau golchi dillad, i flyshio toiledau, i ddyfrhau'r lawnt ac i olchi ceir, er enghraifft. Defnyddir casgenni casglu glaw at ddibenion tebyg.
Mae manteisio i'r eithaf ar systemau gwresogi ac aerdymheru drwy osod a chomisiynu peiriannau ynni-effeithiol ac adennill gwres yn rhan bwysig. Cam arall i fynd i'r afael â cholli ynni yw ailgylchu gwres dwr poeth er mwyn lleihau'r ynni a ddefnyddir ar gyfer cynhesu dwr domestig. Mae pympiau gwres o'r ddaear hefyd yn effeithiol ar gyfer gwresogi ac oeri. Yn olaf, mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle drwy bwer solar, pwer y gwynt, pwer hydro neu fiomas hefyd yn gallu lleihau effaith amgylcheddol yr adeilad.

